TEITL |
Rheoliadau'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin ac Anifeiliaid (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2019 |
DYDDIAD |
10 Hydref 2019 |
GAN |
Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd |
Rheoliadau'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin ac Anifeiliaid (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2019
Y Gyfraith sy'n cael ei diwygio
· Rheoliadau'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2019.
· Rheoliadau'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin a Dyframaethu (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2019.
· Rheoliadau'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) (Rhif 2) 2019
· Rheoliadau Anifeiliaid (Swyddogaethau Deddfwriaethol) (Ymadael â’r UE) 2019
Offerynnau Ewropeaidd sy'n Uniongyrchol Gymwysadwy a ddiwygir gan Reoliadau 2019
· Rheoliad (EU) 2019/1241
· Rheoliad (EU) 2019/472
· Rheoliad (EU) 2018/973
· Rheoliad (EU) 2019/1241
· Rheoliad (EU) 2019/472
· Rheoliad (EU) 2018/973
· Rheoliad Dirprwyedig gan y Comisiwn (EU) 2019/906.
Diffyg newydd
· Crëwyd gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/906.
Dirymu
· Rheoliad (EU) 2016/1139
· Rheoliad (EU) 2019/473
· Rheoliad (EU) 2019/1022
· Rheoliad gan y Cyngor (EC) 768/2005 – dirymwyd ar lefel yr UE gan Reoliad (EU) 2019/473.
· Rheoliad gan y Cyngor (EC) rhif 1386/2007 a 2115/2005 – dirymwyd ar lefel yr UE gan Reoliad (EU) 2019/833.
Diben y diwygiadau
Mae angen Rheoliadau 2019 mewn perthynas â thri chategori o ddiwygiad.
c) Mân gywiriadau y mae angen eu gwneud i bedwar offeryn statudol a gafodd eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru (fel y'u rhestrir uchod).
Mae Rheoliadau'r UE sy'n dyblygu deddfwriaeth bresennol y DU yn cael eu dileu, a bydd darpariaethau nad ydynt yn gallu gweithredu o fewn y DU, neu nad ydynt yn berthnasol i'r DU y tu allan i'r UE, yn cael eu dirymu.
Mae Rheoliadau 2019 hefyd yn gwneud mân ddiwygiad i offeryn statudol blaenorol (Ymadael â’r UE) ym maes iechyd a llesiant anifeiliaid mewn perthynas â chludo anifeiliaid. Mae Rheoliad 11 o Reoliadau 2019 yn diwygio Rheoliad Anifeiliaid (Swyddogaethau Deddfwriaethol) (Ymadael â’r UE) 2019. Mae'r diwygiad yn dileu'r ddarpariaeth anghywir yn yr offeryn hwnnw y nodwyd ei bod yn gwrthdaro â diwygiad tebyg mewn offeryn arall (ymadael â'r UE).
Mae Rheoliadau 2019 a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig, sy'n nodi effaith y diwygiadau, i'w gweld yma: https://beta.parliament.uk/work-packages/K1v1VCdU
Unrhyw effaith y gall yr OS ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru
I raddau helaeth mae rheoli pysgodfeydd, mewn perthynas â'u cychod a'u dyfroedd, wedi'i ddatganoli i'r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. Felly, lle mae darpariaethau'n rhwymo Aelod-wladwriaethau'r UE i wneud rhywbeth, mae'r rhan fwyaf o'r cyfeiriadau hyn wedi cael eu newid i "weinyddiaeth pysgodfeydd", term sy'n cael ei ddiffinio mewn diwygiadau a wneir gan Reoliadau'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (Diwygio etc.) (ymadael â’r UE) 2019 ac sy'n berthnasol i holl Reoliadau'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin a ddargedwir.
Mae iechyd a llesiant anifeiliaid yn fater sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol ac mae felly'n fater sydd wedi'i ddatganoli.
Mae Rheoliadau 2019 yn rhoi swyddogaethau llunio rheoliadau, y gellir eu rhoi yn y categori "datganoledig" ar sail gydredol a hefyd yn rhoi swyddogaethau llunio rheoliadau y gellir eu rhoi yn y categori "datganoledig" i'r Ysgrifennydd Gwladol gyda chydsyniad y gweinyddiaethau datganoledig.
Gallai swyddogaethau a drosglwyddir ar sail gydredol i'r Ysgrifennydd Gwladol fod yn swyddogaethau un o Weinidogion y Goron at ddibenion Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru (2006). Mae'n bosibl, felly, y gallai hynny gyfyngu ar gymhwysedd y Cynulliad i ddeddfu yn y meysydd hyn yn y dyfodol. Er mwyn lleihau'r perygl hwnnw, mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru gyda'r bwriad o ddiwygio Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 drwy Orchymyn o dan adran 109A o’r Ddeddf honno.
Mae swyddogaethau a drosglwyddir fel mai’r Ysgrifennydd Gwladol yn unig a gaiff eu harfer, ond dim ond gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, yn swyddogaethau un o Weinidogion y Goron at ddibenion Atodlen 7B. Pe bai'r Cynulliad yn cyflwyno Bil yn y dyfodol i geisio dileu neu addasu'r swyddogaethau hyn, gallai hynny olygu y bydd angen ymgynghori â Llywodraeth y DU
Unrhyw effaith y gall yr OS ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol Gweinidogion Cymru
Bydd Rheoliadau 2019 yn ehangu cymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru yng ngoleuni’r gofyniad newydd i reoliadau gael eu gwneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r cydsyniad sydd bellach ei angen yn eu cylch.
Pam y rhoddwyd cydsyniad
Fel yr amlinellir uchod, mae angen Rheoliadau 2019 mewn perthynas â thri chategori o ddiwygiad:
c) Mân gywiriadau y mae angen eu gwneud i bedwar offeryn statudol a gafodd eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru (fel y'u rhestrir uchod).